Lleoliad:
Microsoft Teams
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Mai 2020
Amser: 09.15 - 13.30
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Joanna Adams, Uwch-bartner Busnes Aelodau'r Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Carys Evans, Pennaeth Cyswllt a Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau Martin Jennings, Y Gwasanaeth Ymchwil Craig Griffiths, Gwasanaeth Cyfreithiol Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd |
Ysgrifenyddiaeth: |
Lleu Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Huw Gapper (Ysgrifenyddiaeth) |
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Yn amodol ar destun ychwanegol i baragraff 4.1, cytunodd y Bwrdd ar gofnodion 2 Ebrill fel rhai cywir.
1.4 Nododd y Bwrdd y diweddariad am wariant mewn perthynas â Covid-19 a nifer yr Aelodau sydd wedi cymryd y Lwfans Gweithio o Gartref. Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at yr Aelodau i'w hatgoffa o'r cymorth sydd ar gael a rhoi sicrwydd iddynt bod y Bwrdd yn barod i’w cynorthwyo yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cytunodd y Bwrdd i ystyried diweddariad pellach mewn perthynas â Covid-19 yn y cyfarfod nesaf, gan gynnwys gwaith paratoi rhag ofn y byddai'n rhaid delio ag ail don o’r feirws.
1.5 Roedd y Bwrdd hefyd o'r farn y gallai fod cynnydd yn y dyfodol yn y costau sy'n gysylltiedig â DSE ar gyfer gweithio o gartref mewn perthynas ag iechyd a diogelwch gweithwyr. Nododd y Bwrdd y cyngor ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn arbennig mewn perthynas â gweithio unigol. Er bod y Bwrdd yn cydnabod bod gwariant ar deithio gan Aelodau er enghraifft yn llai ac felly y gallai dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chymorth mewn perthynas â Covid-19, byddai angen cadw llygad ar hyn. Nododd y Bwrdd fod y Comisiwn yn bwriadu cynnal arolwg gyda’r Aelodau i weld a yw eu gofynion o ran offer TGCh yn cael eu bodloni, a phwysleisiodd ei gyngor y dylai'r Aelodau gaffael offer a gymeradwyir gan y Comisiwn er y gallai’r gost fod ychydig yn uwch.
1.6 Trafododd y Bwrdd ddiweddariad ar ddatblygu Contractau a Llawlyfr Staff Cymorth. Cafodd y Bwrdd sicrwydd o’r ffaith y cafwyd adborth cychwynnol cadarnhaol gan grwpiau’r pleidiau a phenaethiaid staff. Cytunodd y Bwrdd i dynnu sylw'r Bwrdd sy’n ei olynu at y mater hwn yn ei nodyn trosglwyddo.
1.7 Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar y defnydd o ddyfeisiau diogelwch personol a chytunodd i drafod gwybodaeth bellach yn ei gyfarfod nesaf. Cytunodd y Bwrdd hefyd y byddai angen cynnwys y mater hwn yn y nodyn trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu.
1.8 Nododd y Bwrdd ddiweddariad ynghylch apeliadau a gofynnodd am gael tynnu sylw’r Bwrdd at unrhyw apeliadau ynghylch Covid-19 er gwybodaeth ar ôl iddynt gael eu cwblhau.
1.9 Nododd y Bwrdd fod y taliadau goramser ar gyfer aelodau teulu wedi'u cyhoeddi am y tro cyntaf a chytunodd y dylid eu hystyried adeg y cyhoeddiad nesaf, y flwyddyn nesaf.
1.10 Trafododd y Bwrdd y trefniadau ar gyfer trosglwyddo i'r Bwrdd sy’n ei olynu ym mis Medi 2020, a chytunwyd i drafod hyn ymhellach yn y cyfarfod nesaf.
Camau gweithredu:
- Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion cyfarfod mis Ebrill, yn amodol ar y newid bach a nodir uchod.
- Paratoi papur i'r Bwrdd ei drafod yn y cyfarfod nesaf mewn perthynas â'r cymorth a ddarperir mewn perthynas â Covid-19.
2 Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd
2.1 Trafododd y Bwrdd destun terfynol y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.
2.2 Yn amodol ar welliant i'r adroddiad i egluro'r sefyllfa bresennol sy'n ymwneud â theithio gan Aelodau i Aelod-wladwriaethau'r UE ar ôl i'r DU roi'r gorau i fod yn aelod o'r UE, cytunodd y Bwrdd ar yr adroddiad ar yr Adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd.
2.3 Trafododd y Bwrdd y trefniadau cyhoeddi ar gyfer y Penderfyniad a chytunodd, oherwydd yr amgylchiadau presennol gyda Covid-19, y byddai'n fwy priodol gohirio’r cyhoeddi o wythnos.
2.4 Roedd y Bwrdd yn dymuno rhoi diolch arbennig i Huw Gapper am ei waith rhagorol yn cynorthwyo'r Bwrdd i gyhoeddi Penderfyniad y mae’n falch ohono ac sy'n crisialu gwaith ac ethos y Bwrdd dros y pum mlynedd diwethaf.
Camau gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i wneud yr holl drefniadau ar gyfer cyhoeddi’r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd a'r adroddiad cysylltiedig ar 4 Mehefin 2020.
3 Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Etifeddiaeth y Bwrdd
3.1 Trafododd y Bwrdd ei etifeddiaeth i'r Bwrdd olynol. Cytunodd y Bwrdd fod y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd yn crisialu ei waith dros y pum mlynedd diwethaf, ac felly penderfynodd beidio â chyhoeddi adroddiad etifeddiaeth.
3.2 Nododd y Bwrdd ddiweddariad llafar gan Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd, ynghylch yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd yn ystod ei gyfnod gweithredol. Cytunodd y Bwrdd i drafod yr adroddiad terfynol yn ei gyfarfod nesaf, gan gynnwys a fyddai’n cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn yr haf.
Camau gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i roi nodyn trosglwyddo drafft i'r Bwrdd ar gyfer y Bwrdd nesaf, i gytuno arno yn y cyfarfod nesaf.
- Paratoi’r Adroddiad ar yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd, i'w drafod a chytuno arno yn y cyfarfod nesaf.